Brychan Llyr *

 Presenter / Voice Over Artist / Director / Musician

(*voice over sample MP3s below)

Brychan Llyr
 

Brychan Llyr is a passionate and creative individual bursting with integrity. Originally from Cardigan, Brychan is an experienced presenter, director and musician.

Brychan is a very enthusiastic individual who's ambition landed him a series on BBC1 Wales, which he produced, directed and presented. The series, AGAINST THE ODDS, followed Brychan pursuing his steeple-chasing career into the professional echelons.

As well as his work for the BBC, Brychan also has a long history with S4C with whom his credits include STEIL A STEIL, YN ENW SERCH, and HENO. He has also produced, directed and presented a series for S4C called AR GARLAM. The series featured the amateur form of horse racing over jumps known as Point to Point. It was during the course of this series that Brychan realised his ambition of taking part in this type of steeplechasing. He came second in his first race. Brychan then went on to co-present a Point to Point highlight series with Shan Cothi called RASUS AR GARLAM.

Brychan is currently a regular presenter on S4C's afternoon magazine show, WEDI 3.

Music

As well as being a successful presenter, Brychan has also made a name for himself in the music industry as the front man of popular Welsh band - JESS. JESS was formed in 1988, and quickly became one of Wales' biggest bands in the late 80's and early 90's. They gigged all over Wales, and travelled to Europe regularly, including visits to Czeckoslovakia, Sweden, and more recently Italy.

JESS won the Best Album and Best Band awards in the 1989 "Noson Wobrwyo Y Sgrin Roc" as well as Brychan receiving the Best Singer award.

Following his success with JESS, Brychan carried on singing in Italy as a solo artist where he recorded four albums. Brychan is now fluent in Italian.

Earlier this year, JESS re-formed, and made an appearance in the Mwldan Theatre in Cardigan. Brychan will also be performing with HERE BE DRAGONS in the CIA in Cardiff later this year.

Brychan Llyr
 

Brychan's experience, enthusiasm and professionalism makes him a trusted choice for presenting, directing, voice-overs and live event hosting.

 

Listen to Brychan's voice over sample MP3s here:



 

Brychan Llyr

 

Cyflwynydd / Tros Leisydd / Cyfarwyddwr / Cerddor 

Brychan Llyr
 

Mae Brychan Llyr yn unigolyn creadigol, angerddol, gonest. Yn wreiddiol o Aberteifi, mae Brychan yn gyflwynydd, cyfarwyddwr a cherddor profiadol.

Mae Brychan yn unigolyn brwdfrydig, uchelgeisiol, sy'n sylfaen i'w lwyddiant. Bu iddo gynhyrchu, cyfarwyddo a chyflwyno cyfres AGAINST THE ODDS ar gyfer BBC1 Wales, a oedd yn dilyn ei yrfa rasio ffos a pherth i'r maes proffesiynol.

Yn ogystal â'i waith gyda'r BBC mae gan Brychan hanes hir gyda S4C, gan gynnwys rhaglenni megis STEIL A STEIL, YN ENW SERCH, a HENO. Roedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu, cyfarwyddo a chyflwyno cyfres ar gyfer S4C o'r enw AR GARLAM. Rhaglen oedd hon yn edrych ar y ffurf amaturaidd o rasio ceffylau a elwir yn "Point to Point." Yn ystod y gyfres, sylweddolodd Brychan ei uchelgais o gymryd rhan yn y math hwn o rasio ffos a pherth. Daeth yn ail yn ei ras gyntaf. Aeth Brychan yna ymlaen i gyd-gyflwyno cyfres rasio ffos a pherth gyda Shan Cothi o'r enw AR GARLAM.

Mae Brychan ar hyn o bryd yn gyflwynydd rheolaidd ar raglen gylchgrawn S4C, WEDI 3.

Cerddoriaeth

Yn ogystal â bod yn gyflwynydd llwyddiannus, mae Brychan hefyd yn gerddor adnabyddus wedi gwneud enw iddo'i hun fel prif ganwr y band Cymraeg - JESS. Ffurfiwyd JESS yn 1988, a thyfodd y band yn un o fandiau mwyaf yr 80'au hwyr a'r 90'au cynnar. Bu'r band yn gigio dros Gymru, a theithio yn aml i Ewrop, gan gynnwys Czeckoslovakia, Sweden ac yn fwy diweddar i'r Eidal.

Yn 1989, derbyniodd JESS wobrau "BAND GORAU" a'r "ALBWM GORAU" yn "NOSON WOBRWYO Y SGRIN ROC," a chipiodd Brychan wobr "Y CANWR GORAU."

Yn dilyn ei lwyddiant gyda JESS, parhaodd Brychan i ganu yn yr Eidal lle y bu iddo ryddhau pedwar albwm. Mae Brychan bellach yn rhugl mewn Eidaleg.

Yn gynharach eleni, ail-ffurfiodd JESS gan wneud ymddangosiad yn Theatr Mwldan, Aberteifi. Bydd Brychan yn perfformio gyda'r HERE BE DRAGONS yn y CIA yng Nghaerdydd yn ddiweddarach eleni.

Mae profiad, brwdfrydedd a phroffesiynoldeb Brychan yn ei wneud yn ddewis perffaith ar gyfer cyflwyno, cyfarwyddo, tros-leisio a chyflwyno digwyddiadau byw.

 

Grandewch ar enghreifftiau o waith trosleisio Brychan yma: