Rhun ap Iorwerth
Presenter Journalist Chairman
After-Dinner Speaker

Rhun ap Iorwerth has been a familiar face to audiences in Wales as a journalist and broadcaster for over 15 years.
He was BBC Wales Chief Political Correspondent and has also worked as a Correspondent for BBC Network News. He has covered many of the major stories in recent years - reporting from New York during the immediate aftermath of 9/11, to more recently covering the Royal Engagement of Prince William and Kate Middleton. He currently anchors the BBC's main evening news programme for S4C, NEWYDDION.
As well as this, Rhun has presented numerous political programmes including DRAGON’S EYE (BBC 1 Wales ) and THE POLITICS SHOW (BBC 1 Wales). In the past, he has fronted the breakfast shows on BBC Radio Wales (GOOD MORNING WALES) and BBC Radio Cymru (Y POST CYNTAF). In 2008, WYTHNOS YNG NGHYMRU FYDD, which he presented for BBC RADIO CYMRU was nominated for a Celtic Media Award.
Rhun has presented a number of factual television series for S4C, including Y RHUFEINIAID [The Romans] and ARIAN MEWN ARGYFWNG [Addicted to Money], (Green Bay Media). He currently presents the culture series PETHE and the discussion show DWEUD PETHE (Cwmni Da) on S4C.
For a number of years he has presented the BBC's coverage of the National Eisteddfod, as well as numerous one-off programmes (e.g. LOOK UP YOUR GENES (BBC 2W), the official openings of the Millennium Centre and the Senedd, and special live-audience television debate programmes (BBC Cymru Wales).
Rhun also regularly comperes or chairs public events, from conferences (e.g. WLGA, Association of National Parks Authorities, Home Office) to awards ceremonies (e.g. Book of the Year, Wales Excellence Awards) and concerts, as well as giving after-dinner speeches.
He is married, with three children, lives on Anglesey, and divides his working time between north Wales and Cardiff.
Rhun ap Iorwerth
Cyflwynydd Newyddiadurwr Cadeirydd
Siaradwr Gwadd
Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn wyneb a llais cyfarwydd i gynulleidfaoedd yng Nghymru fel newyddiadurwr a darlledwr ers dros 15 mlynedd.
Bu'n Brif Ohebydd Gwleidyddol i BBC Cymru, mae wedi gweithio fel Gohebydd Rhwydwaith Cymru ac mae wedi gohebu ar nifer fawr o ddigwyddiadau mwyaf y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys o Efrog newydd yn syth wedi trasiedi 9/11, ac yn fwy diweddar ar ddyweddiad y Tywysog William a Kate Middleton (BBC NEWS). Mae ar hyn o bryd yn angori prif raglen NEWYDDION BBC Cymru i S4C.
Yn ogystal a hyn, mae wedi cyflwyno rhaglenni gwleidyddol fel DRAGON’S EYE (BBC 2 Wales ) a THE POLITICS SHOW (BBC 1 Wales). Yn y gorffennol, mae wedi cyflwyno'r sioeau brecwast ar BBC Radio Cymru (Y POST CYNTAF) a BBC Radio Wales (GOOD MORNING WALES). Yn 2008, cafodd ei raglen, WYTHNOS YNG NGHYMRU FYDD, ar BBC RADIO CYMRU, ei enwebu ar gyfer gwobr yn yr Wyl Gyfryngau Geltaidd.
Mae hefyd wedi cyflwyno nifer o gyfresi ffeithiol ar y teledu i S4C, yn cynnwys Y RHUFEINIAID ac ARIAN MEWN ARGYFWNG (Green Bay Media). Mae ar hyn o bryd yn cyflwyno cyfresi PETHE a DWEUD PETHE (Cwmni Da) ar S4C.
Bu’n cyflwyno rhaglenni BBC Cymru o'r Eisteddfod Genedlaethol ers rhai blynyddoedd, yn ogystal a nifer o raglenni unigol arbennig e.e. LOOK UP YOUR GENES (BBC 2W), agoriad swyddogol Canolfan y Mileniwm, agoriad swyddogol y Senedd (BBC Cymru) a rhaglenni trafod teledu gyda chynulleidfaoedd byw (BBC Cymru Wales).
Mae Rhun hefyd yn cyflwyno neu gadeirio digwyddiadau cyhoeddus yn rheolaidd, o gynhadleddau (e.e. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, Y Swyddfa Gartre) i nosweithiau gwobrwyo (e.e. Llyfr y Flwyddyn, Gwobrau Rhagoriaeth Cymru), a chyngerddau, yn ogystal a rhoi sgyrsiau ar ôl swper.
Mae'n briod, gyda thri o blant, yn byw yn Ynys Môn, ac yn rhannu'i amser gwaith rhwng y gogledd a Chaerdydd.




