Llangollen Festival to benefit from the British ‘staycation’

28th May 2009

With many British holiday-makers opting to holiday at home this year due to the economic downturn, the town of Llangollen, North Wales is set to receive a record number of visitors as it plays host to one of the world’s most vibrant Festivals, the Llangollen International Musical Eisteddfod, which this year takes place from 6th to 12th July.

Each year, this quaint and tranquil town, located in the picturesque Dee Valley, comes alive when it sees over 4,000 competitors and 50,000 visitors from over fifty countries gather for one of Wales’ most unique events.

The Minister for Heritage, Alun Ffred Jones, recognises the importance of this internationally-renowned event for Welsh tourism, “Llangollen Festival has always had a large impact on the tourist map of Wales, with 50,000 international performers and festival-goers visiting Llangollen each year. The Festival is a unique Welsh event which not only celebrates our own culture but also brings together cultures from around the world. To have such a vibrant international festival on our own doorstep is something we are very proud of here in Wales”.

Originally established in 1947 to promote peace and goodwill between nations through music and dance, the Llangollen Festival continues to thrive and shows no signs of relenting under the current economic climate. Mervyn Cousins, the Festival’s Executive Director reported that “Ticket sales for this year’s Festival are selling well with almost all tickets sold for International Children’s Day on the Tuesday of the Festival, 7th July. We have also seen an increase on ticket sales for Wednesday’s International Song and Dance Day and Saturday’s International Family Day compared with sales for this time last year. The up-take on ticket sales for Saturday’s Family Day suggests that families are this year choosing to spend their holiday time in the UK visiting local events”.

Mervyn Cousins continued to explain that the Festival has this year made a conscious effort to appeal to their local audience “We have extended this year’s Festival programme with an extra day of activities on Sunday 12th July, free to Sunday concert ticket holders, and the Opening Gala on Monday 6th is also an exciting new addition for the evening concert schedule. We are hoping that this year’s programme will appeal to our local and regional communities, as well as our many overseas visitors, as we realise this could be a vulnerable time for us all”. He also commented “This year there will also be more overseas performers due to the improved cost levels of visas making it easier for competitors to travel into the country”.

Ian Williams, Director of North Wales, Enterprise and International Business Wales (WAG) said “North Wales has always been a popular destination with tourists and for over 60 years Llangollen has welcomed visitors from all over the world. And this year we’re cautiously optimistic that North Wales will receive an increase in visitors especially during Festival week”.

An organisation which has already noticed a significant rise in holiday-makers choosing to take their holiday in the UK this year is The Caravan Club. Nikki Nichol, representative for The Caravan Club said "The Caravan Club reports bookings up by 40% for the 2009 season, this is set to be the year of the great British staycation!"

The Minister for Heritage also anticipates the Festival will see an influx of local day-trippers as well as visitors from further afield, “This year we are not only seeing an increase in tourists coming to Wales but seeing more people spending their holiday money on their own doorsteps”.

One person who is particularly looking forward to visiting the International Festival is ITV weather presenter Sian Lloyd, who is hosting Monday night’s Opening Gala and will be present at the Festival as Ambassador on Tuesday 7th July: “Through my travel writing I have visited some of the most beautiful places in the world but can honestly say that Llangollen is up there with the best of them; the area has such an outstanding natural beauty. I’m particularly thrilled to be an Ambassador for the Llangollen International Eisteddfod this year which attracts so many people from across the globe to visit this beautiful part of Wales”.

This year the thousands of people from around the world who visit the North Wales event will not only be welcomed by music and dance competitions but also treated to headline acts including Faryl Smith, Barbara Dickson, Sir Willard White, Blake and Natasha Marsh. The finale of the Festival will see an evening of James Bond music performed by the Welsh National Opera Orchestra, conducted by Carl Davis and starring Bond girl Honor Blackman. What a cocktail...prepare to be shaken AND stirred!

For tickets and/or further information call 01978 862001 or visit  www.llangollen2009.com

 

Cyfarwyddwr Gweithredol Llangollen yn datgan "gwerthiant tocynnau cynnar gwych...”

Gyda chymaint o Brydeinwyr yn dewis cael gwyliau adref eleni oherwydd y dirwasgiad, mae tref Llangollen, Gogledd Cymru yn barod i dderbyn y nifer fwya’ o ymwelwyr wrth i’r ardal eu croesawu i un o wyliau mwyaf blaenllaw, sef Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, sy’n digwydd y 6ed i’r 12fed o Orffennaf.

Pob blwyddyn mae’r dref fechan, dawel sy’ wedi ei leoli yn Nyffryn Dyfrdwy yn cael ei draws-newid wrth i 4000 o gystadleuwyr a 50,000 o ymwelwyr o dros hanner cant o wledydd ymgynnull ar gyfer un o ddigwyddiadau mwya’ unigryw Cymru.

Dywedodd Alun Ffred Jones, Y Gweinidog dros Dreftadaeth, sy’n cydnabod pwysigrwydd y digwyddiad byd-enwog yma i dwristiaeth Cymru “Mae'r effaith mae Eisteddfod Llangollen wedi cael ar fap twristiaeth Cymru yn enfawr, gyda miloedd ar filoedd o berfformwyr ac ymwelwyr yn dod i'r Eisteddfod pob blwyddyn. Mae'r ŵyl yn un unigryw, sydd nid yn unig yn clodfori ein celfyddyd ond hefyd mae'n denu pob math o gelfyddyd arall o amgylch y byd. Mae cael y fath ŵyl ar stepen ein drws ni, wir yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo”.

Sefydlwyd yr ŵyl yn 1947 i hybu neges heddwch ag ewyllys da rhwng y cenhedloedd, drwy gerddoriaeth a dawns ac mae’r Eisteddfod yn parhau i ffynnu gan ddangos dim arwydd o ildio yng nghwyneb y sefyllfa economaidd bresennol. Mi ddywedodd Mervyn Cousins, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Eisteddfod  “Mae’r tocynnau eleni yn gwerthu yn dda, gyda bron bob tocyn wedi gwerthu ar gyfer Diwrnod  Ryngwladol y Plant ar Ddydd Mawrth yr Ŵyl, 7ed Gorffennaf. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yng ngwerthiant y tocynnau ar gyfer Diwrnod Cerddoriaeth a Dawns Rynglwadol ar Ddydd Mercher a Diwrnod Ryngwladol y Teulu ar y Dydd Sadwrn, o’u cymharu â gwerthiant y tocynnau'r adeg hon llynedd. Mae gwerthiant tocynnau'r Sadwrn i’r diwrnod teuluol yn awgrymu fod teuluoedd yn dewis cael eu gwyliau yn y DU yn ymweld â digwyddiadau lleol”.

Eglurodd Mervyn Cousins fod yr ŵyl wedi gwneud ymdrech ymwybodol i apelio at eu cynulleidfa leol “Rydym wedi ehangu rhaglen yr Ŵyl eleni gyda diwrnod ychwanegol o weithgareddau ar Sul 12ed Gorffennaf, yn rhad ac am ddim i’r rhai sydd â thocynnau i gyngerdd nos Sul, ac mae Gala Agoriadol Llun 6ed hefyd yn ychwanegiad cyffrous i’r rhaglen cyngherddau. Ein gobaith yw bod y rhaglen eleni yn apelio at ein cymunedau lleol a rhanbarthol, yn ogystal â’n ymwelwyr tramor, wrth i ni sylweddoli fod y cyfnod yma yn un bregus i ni gyd”. Mi ychwanegodd “Eleni bydd mwy o berfformwyr tramor oherwydd costau gostyngedig ‘visas’ a fydd yn hwyluso’r cystadleuwyr i drafeilio i mewn i’r wlad”.

Dywedodd Ian Williams - Cyfarwyddwr Gogledd Cymru, Menter a Busnes Rhyngwladol Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru) "Ers dros drigain mlynedd mae'r Eisteddfod wedi denu miloedd ar filoedd o dwristiaid i Ogledd Cymru. Rydyn yn wyliadwrus ond hyderus fydd Gogledd Cymru yn gweld cynnydd yn y niferoedd o ymwelwyr eleni, yn enwedig yn ystod wythnos yr Eisteddfod”.

Un corff sydd yn barod wedi gweld cynnydd mawr yn niferoedd ymwelwyr yn dewis aros adref yn y DU i dreulio eu gwyliau yw'r Clwb Carafán. Dywedodd Nikki Nichol cynrychiolydd y Clwb Carafán “Mae’r Clwb Carafán yn cadarnhau fod cynnydd o 40% ar gyfer tymor 2009, hon yw’r flwyddyn i aros yn y wlad”.

Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth hefyd yn disgwyl y bydd yr ŵyl yn gweld cynnydd yn yr ymwelwyr lleol yn ogystal ag ymwelwyr eraill, “Eleni, yn enwedig, gwelwn arwyddion fod twristiaeth yn ffynnu yng Nghrymu, nid yn unig o dramorwyr yn ymweld â’r wlad ond hefyd o bobl Cymru eu hunain”.

Un person adnabyddus sy’n edrych ymlaen yn arw at ymweld â’r Ŵyl Rhyngwladol yw y cyflwynydd tywydd i ITV Sian Lloyd a fydd yn cyflwyno’r Gala Agoriadol ar y Nos Lun a hefyd yn Lysgennad i’r Ŵyl ar Ddydd Mawrth 7ed Gorffennaf. “Mi rydw i wedi bod yn ddigon ffodus fel Ysgrifenwraig Teithio i ymweld a rhai o leoliadau prydfertha’r byd ond gallaf ddweud, gyda llaw ar fy nghalon, fod Llangollen cystal ag unrhyw le, mae’r ardal yn wledd i’r llygaid. Mi rydw i'n hynnod filch o fod yn Lusgenad ar gyfer Gwyl Rhyngwladol Llangollen, sydd yn denu pobl o bedwar ban byd i ymweld a’r lle hyfryd hwn”.

Eleni bydd y miloedd o ymwelwyr a fydd yn ymweld â’r Ŵyl unigryw, o’r ardaloedd cyfagos ac o bell, yn cael eu croesawu nid yn unig gan gystadlaethau cerddorol a dawns, ond hefyd yn cael y fraint o weld enwogion o fri a fydd yn serennu yn y cyngherddau gyda’r hwyr, gan gynnwys Faryl Smith, Barbara Dickson, Sir Willard White, Blake a Natasha Marsh. Diweddglo yr ŵyl fydd noson yng nghwmni cerddoriaeth James Bond gyda Cerddorfa Opera Genedlaethol Cymru dan arweiniad Carl Davis, wedi ei gyflwyno gan Honor Blackman. Coctêl ffrwydriadol!

Ar gyfer tocynnau neu fanylion pellach 01978 862001 neu www.llangollen2009.com