Senior appointment for North Wales’ largest music festival
Llangollen International Musical Eisteddfod is seeking to appoint a new music director. The vacancy follows the announcement earlier this year by the current chief executive, Mervyn Cousins that he would be leaving after next month’s festival.
The senior post, will oversee the artistic and musical side of the annual Eisteddfod, currently in its 65th year.
Phil Davies, Chairman of the International Eisteddfod, says: “We owe a great debt to Mervyn for all he has done for the Eisteddfod during his eight years. We hope to attract a successor who will carry the Eisteddfod forward while maintaining the high artistic standards that have been established over the last 65 years.”
A number of well-known musical figures have held the post of music director in past years, including Arwel Hughes and Roy Bohana.
The first music director was WS Gwynn Williams, one of the founders of the Eisteddfod, shortly after the end of World War II.
It aimed then, and continues to bring people together from different nationalities as an antidote to the ravages of war and has been a strong influence for peace and goodwill ever since.
The world famous Eisteddfod stage has held performances by Pavarotti, Shirley Bassey, Katherine Jenkins and Bryn Terfel. This year, Lulu, Russell Watson, Ruthie Henshall and McFly will each perform during the festival.
Applicants interested in the position of music director, which carries an honorarium, are invited to experience the unique international festival taking place in Llangollen from 4 – 10 July.
Further information about the post can be found at www.international-eisteddfod.co.uk.
ENDS
Hysbysebu am Gyfarwyddwr Cerddorol newydd i ŵyl mawreddog Gogledd Cymru
Mae Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen wedi dechrau’r broses o benodi Cyfarwyddwr Cerddorol newydd. Daw’r hysbyseb yn dilyn y cyhoeddiad yn gynharach eleni gan y Prif Weithredwr cyfredol, Mervyn Cousins ei fod yn gadael ar ôl yr ŵyl fis nesaf.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio ochr artistig a cherddorol yr ŵyl flynyddol, sydd eleni yn dathlu 65 blynedd ers yr Eisteddfod gyntaf.
Meddai Phil Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod Ryngwladol: “Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch o waelod calon i Mervyn am yr holl waith mae wedi cyflawni yn ei waith i’r Eisteddfod yn ystod yr wyth blynedd ddiwethaf.
“Ein bwriad nawr yw denu olynydd a fydd yn gallu datblygu’r Eisteddfod a chadw safon uchel artistig sydd wedi’i sefydlu dros y 65 mlynedd diwethaf.”
Dros y blynyddoedd, mae nifer o feistri cerddorol adnabyddus wedi bod wrth y llyw yn y swydd Cyfarwyddwr Cerddorol, gan gynnwys Arwel Hughes a Roy Bohana.
Y Cyfarwyddwr Cerddorol gyntaf oedd WS Gwynn Williams, un o sylfaenwyr yr Eisteddfod, a benodwyd yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Y bwriad bryd hynny, ac sy’n parhau hyd heddiw, yw denu pobl o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol at ei gilydd ac mae’n llwyddo i ddylanwadu’n gryf wrth hyrwyddo heddwch ac ewyllys da ers hynny.
Mae llwyfan enwog yr Eisteddfod wedi cynnal perfformiadau gan oreuon y byd cerddorol, gan gynnwys Pavarotti, Shirley Bassey, Katherine Jenkins a Bryn Terfel. Eleni, bydd Lulu, Russell Watson, Ruthie Henshall a McFly yn perfformio yn ystod yr ŵyl.
Gwahoddir ymgeiswyr â diddordeb yn ymgeisio am swydd Cyfarwyddwr Cerddorol, sydd â chydnabyddiaeth, i Langollen rhwng 4 – 10 Gorffennaf i brofi’r ŵyl unigryw.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan - www.international-eisteddfod.co.uk
DIWEDD




