Cardiff-based Public Relations, Event Management and Celebrity Agency appoints new PR Manager

2nd August 2011

 

Cardiff-based Public Relations, Event Management and Celebrity Agency appoints new PR Manager 

Gareth Rhys Evans, from Pontardawe in the Swansea Valley, brings with him experience in public and media relations and event coordination after four years working in S4C’s Communications Department.

Evans’s appointment comes at a time when Mr Producer is to expand its PR client list, which includes managing Llangollen Eisteddfod's Public Relations for the past three years. The company have also worked on high-profile campaigns including Only Men Aloud and Opera star Wynne Evans’ debut album, ‘A Song in My Heart’ (Warner Music /Rhino UK).

The new PR Manager’s skills will be a great asset to the strong team led by Managing Director Stifyn Parri and Head of Operations Lydia Jones.

Since joining the company in June, Evans was at the forefront of the 2011 Llangollen International Musical Eisteddfod PR campaign. The Eisteddfod’s Chairman, Phil Davies, said of Gareth and Mr Producer's work: "Mr Producer has always provided us with an unparalleled level of support and their work has secured us hundreds of thousands of pounds worth of column inches, which the Eisteddfod could never, ever achieve in advertising costs. They don't just draw the line at PR - their creative input on ground activities is fantastic. Gareth is THE perfect addition to an already strong team."

Stifyn Parri adds, "I’m very pleased that Gareth has chosen Mr Producer as a place to develop his skills further. It’s been an exciting start to 2011 and we’ve got a very exciting year ahead of us”.

Mr Producer may be better known for its celebrity work and Creative Event Management, having been at the helm of the Opening Weekend of Wales Millennium Centre with Stifyn Parri as Creative Producer. More recently, the events team was appointed Creative Producers and Celebrity bookers for the Welcome to Wales Ryder Cup Concert at the Millennium Stadium.

Ryder Cup Wales Chief Executive Rob Holt OBE, who was recently honoured for his services to Golf, said of Mr Producer: “Mr Producer's passion, teamwork and integrity never waned during the creation of Welcome to Wales concert at the Millennium Stadium to celebrate Ryder Cup 2010. They creatively produced a show that had vision, a confident tone and attention to detail. Working under the guidance of WAG’s project manager and alongside many other individuals and organisations, they worked diligently resulting in a production that showcased Wales' talent to the World. Thank you.”

The Official Final Ryder Cup Report highlighted the concert as a huge success: “The undisputed highlight of the off-course week was the spectacular Welcome to Wales celebration held at Cardiff's Millennium Stadium on the Tuesday night which set a genuine new standard for Ryder Cups to come.”

2011 is proving to be a big year for the bilingual fully integrated SME, now in its tenth year. In January 2011, Mr Producer extended its renowned Celebrity and Presenters agency when it opened its doors for the first time to actors. Talent agent, Sarah Vaughton joined the team to head the agency which has enjoyed a successful six months.

The agency also represents talented Supermodel, TV Presenter and Designer Lisa Butcher as well as actor Steffan Rhodri's (Gavin and Stacey’s Dave Coaches) Welsh-based celebrity work.

Ends

 

Cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus, Digwyddiadau Creadigol ac Asiantaeth Talent yng Nghaerdydd yn penodi Rheolwr PR newydd

Mae gan Gareth Rhys Evans, sy'n wreiddiol o Gwm Tawe, brofiad yng nghysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau a chydlynu digwyddiadau ar ôl treulio pedair blynedd yn gweithio yn Adran Gyfathrebu S4C.

Daw penodiad Evans wrth i Mr Producer ehangu eu gwasanaethau PR, sydd eisoes yn cynnwys rheoli cyhoeddusrwydd a hyrwyddo Eisteddfod Llangollen – a hynny am y tair blynedd diwethaf. Yn ddiweddar, mae’r cwmni hefyd wedi gweithio ar nifer o ymgyrchoedd, gan gynnwys Only Men Aloud ac albwm cyntaf y seren opera Wynne Evans, ‘A Song in My Heart’ (Warner Music / Rhino UK).

Bydd sgiliau’r Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus yn gaffaeliad i dîm Mr Producer, gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr Stifyn Parri a Phennaeth Gweithrediadau Lydia Jones wrth y llyw.

Ers cychwyn yn ei swydd newydd ar ddechrau Mehefin, mae Evans wedi arwain ymgyrch PR Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2011. Meddai Cadeirydd yr Eisteddfod, Phil Davies, am waith Gareth a Mr Producer: “Mae Mr Producer bob tro yn cynnig cefnogaeth ddigyffelyb ac mae eu gwaith nhw wedi sicrhau gwerth cannoedd ar filoedd o bunnoedd o gyhoeddusrwydd na fyddai’n bosib i’r Eisteddfod gyflawni mewn costau hysbysebu. Ond nid PR yn unig sydd ganddynt i gynnig – mae eu mewnbwn creadigol yn werthfawr iawn inni hefyd. Mae Gareth yn gaffaeliad perffaith i dîm llwyddiannus.”

Meddai Stifyn Parri, “Rwy’n falch fod Gareth wedi dewis Mr Producer fel y lle i ddatblygu ac ehangu ei sgiliau’n fwy. Mae dechrau 2011 wedi bod yn hynod o gyffrous i’r cwmni ac mae ail hanner y flwyddyn yn edrych yr un mor brysur.”

Mae Mr Producer yn fwy adnabyddus am gyd-weithio gyda sêr byd enwog a rheoli a chynhyrchu digwyddiadau creadigol. Roedd y cwmni wrth y llyw ar benwythnos agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru gyda Stifyn Parri yn rôl Cynhyrchydd Creadigol. Y tîm digwyddiadau oedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu cyngerdd agoriadol y Cwpan Ryder, Croeso i Gymru, yn Stadiwm y Mileniwm.

Meddai Prif Weithredwr Ryder Cup Wales, Rob Holt OBE, am waith Mr Producer: Ni wnaeth greddf na gwaith tîm Mr Producer wanhau o gwbl wrth gynhyrchu’r cyngerdd mawreddog yn Stadiwm y Mileniwm i ddathlu dechrau Cwpan Ryder 2010. Mi wnaethon nhw greu sioe hefo gweledigaeth, hyder a manylder. Gan weithio o dan gyfarwyddyd y Cynulliad a sawl unigolyn a chwmni arall, mi wnaeth Mr Producer weithio'n ddiwyd i lwyfannu cynhyrchiad a wnaeth ddathlu a chyflwyno talent Cymru i'r byd.”

Cafodd y gyngerdd ei glodfori ymhlith uchafbwyntiau’r digwyddiad yn Adroddiad Swyddogol Cwpan Ryder: “Heb os, uchafbwynt yr wythnos oddi ar y cwrs oedd dathliad arbennig Croeso i Gymru yn Stadiwm y Mileniwm ar y nos Fawrth sydd wedi gosod y safon ar gyfer digwyddiadau Cwpan Ryder am flynyddoedd i ddod.”

Mae’n ymddangos i fod yn flwyddyn arbennig i’r cwmni dwyieithog yn 2011, sydd bellach yn dathlu deng mlynedd ers lansio. Yn Ionawr 2011, ehangodd yr asiantaeth i gynnig cynrychiolaeth i actorion yn ogystal â chyflwynwyr a selebs. Ar y pryd, ymunodd Sarah Vaughton â’r cwmni fel asiant ac mae’r asiantaeth wedi gweld llwyddiant a thwf yn ystod y chwe mis gyntaf.

Ymhlith y rheini sydd yn cael eu cynrychioli gan yr asiantaeth mae’r cyflwynydd teledu, model a dylunydd gwisgoedd Lisa Butcher a gwaith Cymraeg yr actor Steffan Rhodri (sydd fwyaf adnabyddus fel Dave Coaches yn y gyfres Gavin and Stacey).