Celebwatch in Abergavenny, Swansea and Newport this weekend (S4C campaign)

26th August 2011


Celebwatch in Abergavenny, Swansea and Newport

Stars of S4C’s hit series Cariad@Iaith:LoveforLanguage will take to the streets of Abergavenny on Saturday to promote a new campaign for the Welsh language channel – in heart costumes and specially-made sandwich boards!

Presenters Matt Johnson (ITV’s This Morning and Channel 5’s OK TV!) and Josie d’Arby (BBC’s Children in Need) will join former politician Lembit Opik as they film a series of comical on-screen promos in the market town.

Former Wales rugby captain, Colin Charvis, and actress Melanie Walters will also be filming in the centre of Swansea on Tuesday (30 August). Filming then moves on to Newport and Ebbw Vale on Wednesday (31 August) with Goldie Lookin Chain’s Rhys Hutchings and comedienne Helen Lederer.

The on-screen trailers promotes the channel’s accessibility to everyone – Welsh speaking or not.  It also features references to S4C’s online catch-up service, Clic, Welsh and English subtitles and the range of programme genres available to watch on the channel.

The campaign featuring the Cariad@Iaith:Love4Language stars will run on television and radio from 16 September.

S4C will return to Gwent and Blaenau Gwent at the end of September to host a range of bilingual events and activities for the whole community.

Among the free activities will be a pub quiz, a food tasting session with resident chef Dudley Newbery and an S4C Viewers Evening – giving the people in the area an opportunity to give their views on the channel’s programmes and services.

Ends

 

Selebs S4C yn glanio yn Y Fenni, Abertawe a Chasnewydd

Bydd rhai o sêr y gyfres Cariad@Iaith:Love4Language ar S4C yn crwydro strydoedd Y Fenni dros y penwythnos mewn gwisgoedd anarferol wrth iddynt hyrwyddo ymgyrch newydd ar y sianel.

Dydd Sadwrn (27 Awst), bydd y cyflwynwyr Matt Johnson (This Morning ar ITV ac OK TV! ar Sianel 5) a Josie d’Arby (BBC Plant Mewn Angen) yn ymuno â’r cyn-wleidydd Lembit Opik yn y dref farchnad i ffilmio cyfres o hysbysebion doniol.

Bydd cyn-gapten rygbi Cymru, Colin Charvis, a’r actores Melanie Walters yng nghanol dinas Abertawe ar ddydd Mawrth (30 Awst). Rhys Hutchings, un o aelodau Goldie Lookin Chain a’r digrifwraig Helen Lederer yw’r ddau fydd yng Nghasnewydd a Glyn Ebwy yn ffilmio ar ddydd Mercher (31 Awst).

Mae’r ymgyrch newydd yn hyrwyddo hygyrchedd y sianel i bawb – boed yn medru siarad Cymraeg ai beidio. Bydd yr hysbysebion hefyd yn cyfeirio at wasanaethau mynediad y sianel, gan gynnwys isdeitlau, Clic – y gwasanaeth ar alw ar-lein a’r mathau o raglenni sydd ar gael i wylio ar S4C.

Bydd yr ymgyrch gyda sêr Cariad@Iaith:Love4Language i’w weld ar y teledu ac i’w glywed ar y radio o 16 Medi.

Ar ddiwedd Medi bydd S4C yn dychwelyd i’r ardal i gynnal llu o weithgareddau dwyieithog yn yr ardal ar gyfer y gymuned gyfan.

Ymhlith y digwyddiadau, sy’n rhad ac am ddim, bydd cwis dafarn, noson o fwyd yng nghwmni’r cogydd adnabyddus Dudley Newbery a Noson Gwylwyr S4C – fydd yn rhoi cyfle i bobl yr ardal i ddatgan eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel.

Diwedd