Plant Ysgol Bro Helyg yn taro'r nodau cywir gyda Tim

17th October 2011

                

PICTURE CAPTION: Plant Bl.5 a 6 Ysgol Bro Helyg gyda Tim Rhys-Evans 

(BACK ROW L-R) Lowri Jacob, Oliver Dobbs, Llywelyn Edwards, Evan Jacob (FRONT ROW L-R) Dylan Hurter, Dylan Robinson, Ffion Evans, Maisie Palin, Ellie Bainton, Abbie Davies 

PLANT YSGOL BRO HELYG YN TARO’R NODAU CYWIR GYDA TIM

Cafodd disgyblion Ysgol Bro Helyg yn Mlaina wledd o gerddoriaeth pan ddaeth Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddorol Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, i’w dysgu fel rhan o ddigwyddiadau Calon Cenedl S4C yn yr ardal.

Yn ystod y prynhawn, bu’r plant o flynyddoedd 5 a 6 yn cymryd rhan mewn gweithdai rhythm ac anadlu cyn perfformio cân Affricanaidd a threfniant Tim o’r gân rygbi, Sosban Fach.

Gwelodd dros 130 o bobl yr ardal ffrwyth llafur Tim a’r disgyblion mewn noson arbennig yng nghwmni Tim a chyflwynydd S4C, Nia Roberts. Yno, cafodd y plant a’r gynulleidfa’r cyfle i holi’r cerddor am ei swydd, cyfres newydd Only Men Aloud ar S4C, ei gynlluniau am y dyfodol ac am ei brosiect diweddaraf, Only Kids Aloud.

Meddai Tim, sy’n hanu o’r ardal, “Mae canu yn gallu cynnig profiad positif i bawb o bob oed ac roedd yn brofiad arbennig i ymweld ag Ysgol Bro Helyg, dysgu technegau anadlu a rhythm iddyn nhw a pherfformio gyda nhw fel rhan o ddigwyddiadau Calon Cenedl S4C.”

Diwedd

 

YSGOL BRO HELYG PUPILS HIT THE RIGHT NOTES WITH ONLY MEN ALOUD’S TIM 

Pupils at Ysgol Bro Helyg in Blaina were given a musical master-class by Only Men Aloud and Only Boys Aloud’s Musical Director, Tim Rhys-Evans

During the afternoon, years 5 and 6 pupils took part in breathing and rhythm exercises before practising an African song and Tim’s arrangement of the popular rugby song, Sosban Fach.

Over 130 parents and locals saw the result of Tim’s workshop with the pupils in a special evening hosted by S4C presenter Nia Roberts. Then, pupils and members of the audience were given the opportunity to ask the Musical Director about his job, his new S4C series with Only Men Aloud, his future plans and the latest project, Only Kids Aloud.

Tim, originally from New Tredegar, says: “Singing can have a positive experience on people of all ages and we had a lot of fun at Ysgol Bro Helyg learning new breathing and rhythm techniques and performing with them as part of S4C’s Calon Cenedl events.” 

Ends