Cylchlythyr Mr Producer Haf 2012

2nd August 2012

HAF O HYD! 2012 


Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2012

Cysylltiadau Cyhoeddus

LIME

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae Mr Producer yn falch o fod yn gyfrifol am Gysylltiadau Cyhoeddus Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Ddechrau mis Gorffennaf eleni daeth dros 2,000 o gystadleuwyr o 23 o wledydd i gystadlu yn y 66ain Gŵyl. Roedd cyngerddocynnau cyngerdd Alfie Boe dan ei sang ar y nos Iau a cynyddwyd gwerthiant tocynnau o’u cymharu ag y llynedd. Roedd uchafbwyntiau eleni yn cynnwys perfformiadau gan y Soprano Leslie Garrett, perfformiwyd The Peacemaker, Karl Jenkins gan y Côr mwyaf i berfformio erioed ar lwyfan yr Ŵyl a Chôr DelicaTon enillodd Dlws Cydnabyddedig Pavarotti yng nghystadleuaeth Côr y Byd. Daeth yr Eisteddfod i ben yn llwyddiannus gyda sêr Cymru - Wynne Evans, John Owen Jones a Chôr CF1 yn perfformio yng nghyngerdd y Grand Finale.

Eisteddfod CYW

Digwyddiadau

CYW

Roedd Mr Producer yn cydweithio gyda S4C i lwyfannu Sioe Eisteddfod Cyw ym Mhrifwyl Bro Morgannwg 2012. Bu rhai o brif gymeriadau CYW yn gorymdeithio o babell S4C dydd Sul Awst 5ed am hwyl a sbri yn y Babell Lên. Ym mherfformian Eisteddfod Cyw fe Sali Mali, Jac y Jwc, Oli Odl, Tigi, Huwi Stomp ac wrth gwrs y rapiwr Dona Direidi yn cael sbort a sbri yn cystadlu yn erbyn eu gilydd

Mardi Gras Cymru Caerdydd 2012 

Cysylltiadau Cyhoeddus
Logo


Mae Mr Producer yn cael y fraint o weithio fel Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus i Mardi Gras Cymru Caerdydd fydd yn cael ei gynnal ar Fedi 1af 2012. Eleni, mae’r Mardi Gras yn cynnal yr Orymdaing gyntaf yng Nghymru. Mae’r Mardi Gras wedi llwyddo i ddenu perfformwyr fel Heather Small, Marcus Collins, Ruth Lorenzo a sicrhau ymddangosiad cyntaf SuperMartXe yng Nghymru wrth iddyn nhw ddod a’i taith o amgylch y byd i gaeau Cooper. Mae modd prynu tocynnau trwy alw 08444 771 000. Cliciwch yma i ymweld a Gwefan Mardi Gras Cymru Caerdydd 2012.

 

Y Sipsiwn

Cynhyrchiad Teledu, Digwyddiadau a Chysylltiadau Cyhoeddus
Sipsiwn
 
Mewn cyd-gynhyrchiad gyda chwmni teledu Telesgop a S4C, aeth Mr Producer ar y lôn gyda Shan Cothi ac Ifan Evans o’r 25ain i’r 30ain o Fehefin. Trefnodd Mr Producer amryw o ddigwyddiadau rhad ac am ddim mewn cymunedau ar draws De Ceredigion a Gogledd Sir Benfro wrth i S4C ddarlledu wythnos o raglenni arbennig ar Y Sipsiwn. O Aberteifi a Chastell Newydd Emlyn yn Ne Ceredigion i Grymych, Trefdraeth ac Abergwaun yng Ngogledd Penfro, ymunodd llu o bobl yn yr hwyl.

Sion a Siân

Cynhyrchiad Teledu, Digwyddiadau a Chysylltiadau Cyhoeddus
 
sion a sian
Mewn cyd-gynhyrchiad arall, y tro hwn gyda HTV Cymru ar gyfer S4C, gwelwyd cyfres gwis boblogaidd Sion a Siân yn dychwelyd i'r sgrin fach gyda'r cyflwynwyr Heledd Cynwal a Stifyn Parri. Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar S4C bob nos Fawrth am 8.25pm o Awst 14 I Hydref 9. Bu Mr Producer hefyd yn cynhyrchu sioe deithiol Sion a Siân aeth i amryw o gymunedau ar draws Cymru yn hyrwyddo’r gyfres deledu. Mae’r nosweithiau hwyliog wedi gweld neuaddau pentref, theatrau a chanolfannau cymunedol yn llawn o Wrexham i Ddyffryn Nantlle, Merthyr Tudful a Llangadog. Carai Mr Produces ddiolch i bob cwpl fu’n rhan o’r hwyl yn y stiwdio ac ar y daith. 
Os oes diddordeb ganddo’ch chi mewn cymryd rhan neu fod yn aelod o'r gynulleidfa yn ystod unrhyw un o'n digwyddiadau neu'r cynyrchiadau dilynwch ni ar Trydar neu Facebook.

 

Cyngerdd Bryn Terfel, Prifysgol Bangor

Digwyddiadau a Chysylltiadau Cyhoeddus
Bryn
 
Dathlodd Prifysgol Bangor ganmlwyddiant Neuadd Pritchard Jones ar Fai 19eg 2012 gyda chyngerdd mawreddog gynhyrchwyd gan Mr Producer. Sicrhaodd Mr Producer berfformiad gan y Bariton byd enwog, Bryn Terfel ochr yn ochr â cherddorion a chantorion ifanc sydd wedi elwa o Ymddiriedolaeth Bryn Terfel. Stifyn Parri a Emma Walford oedd arweinyddion y noson lwyddiannus hon.

 

Lilygreen a Maguire / Warner Music

Digwyddiadau a Chysylltiadau Cyhoeddus
 "The Big Welsh Busk"
lily
Cafodd Mr Producer y pleser o gydweithio unwaith eto gyda Warner Music yn hyrwyddo ail sengl Lilygreen & Maguire ‘Aint Love Crazy’ a chyfres o gigiau awyr agored o amgylch Cymru gyda ‘The Big Welsh Busk’. Bu’r ddau gitarydd ifanc o Gasnewydd yn cynnal cyfres o gigiau awyr agored ym mis Ebrill ger rhai o atyniadau mwyaf adnabyddus Cymru. Aeth y ddeuawd ymlaen i gefnogi Westlife ar ei taith Arena. Cliciwch yma i weld Fideo Lilygreen and Maguire 'Aint Love Crazy'.

 

Noson Gwylwyr S4C

Cysylltiadau Cyhoeddus
 
S4C
 
Wedi llwyddiant Nosweithiau Gwylwyr yn Wrexham, Blaenau Gwent a Chwm Tawe, cafodd cynulleidfa S4C yng Ngogledd Sir Benfro'r cyfle i leisio’u barn ar raglenni S4C a’u gwasanaethau mewn Noson Gwylwyr arbennig yn Nhrefdraeth ar Orffennaf 11eg. Côr Meibion Clwb Rygbi Crymych oedd yn diddanu’r dorf. Bu’n noson lwyddiannus iawn.

 

Cwmni Theatr Rhos Uffe’n

S4C yn gadael ei marc ar y gymuned
Cysylltiadau Cyhoeddus
 
Cwn
 
Mae Cwmni Theatr Rhosllannerchrugog yn mynd o nerth i nerth ers cael ei sefydlu yn sgil llwyddiant ysgubol rhaglen deledu S4C ‘Seren Nadolig Rhos’ yn 2011 a oedd yn gyd-gynhyrchiad rhwng Mr Producer a Boomerang. Penderfynodd aelodau o gwmni pantomeim cymunedol lliwgar Rhos sefydlu cwmni drama. Cafodd eu perfformiad ‘Iechyd Da’ gan Heddus Blackwell, ei lwyfannu ar Orffennaf 13eg gyda'r ddau gi bach yma yn brif gymeriadau! 

 

Noson

Cynhyrchiad Teledu 
Noson
 
Mae pedair cyfres arbennig arall o 'Noson' wedi eu comisiynu ac yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd i’w darlledu yn nes ymlaen yn y flwyddyn fel dilyniant i "Noson yng Nghwmni Mark Evans" a "Noson yng Nghwmni Caryl'. Bydd y cyfresi nos Sadwrn arbennig hyn yn cynnwys ‘Noson yng Nghwmni’ y Seren West End a Broadway, Siân PhillipsTri Tenor Cymru, Dewi Pws ac ail ddyfodiad Eden. Cyd-gynhyrchiad yw hwn gyda Boomerang ar gyfer S4C. 

Cardiff and Co

Digwyddiadau a Chysylltiadau Cyhoeddus
 
C&Co
 
Mae Mr Producer yn falch o gyhoeddi ein bod yn cydweithio gyda Cardiff and Co. Bydd newyddion sy'n gysylltiedig â SWS yn cael ei gyhoeddi cyn hir! Dilynwch ni ar y Trydar er mwyn clywed y newyddion gyntaf. 


                                       Agency @ Mr Producer

Caryl Parry Jones

 
Caryl
 
logo
 
Yn ddi-os Caryl Parry Jones yw un o ddoniau mwyaf Cymru. Mae’n gantores yn actores ac yn un o’n cyflwynwyr radio mwyaf poblogaidd. Yn dilyn llwyddiant ein cyd-gynhyrchiad gyda Boomerang ar gyfer S4C, ‘Noson yng Nghwmni Caryl’, bydd cyfle i gyfarfod a llu o'ch hoff gymeriadau a rhai newydd sbon mewn sioe sydd wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mi fydd cymysgedd fendigedig o sgetshis, caneuon, comedi a straeon ffraeth gan Caryl ei hun. Am dicynnau cysylltwch â Ticketline ar 0845 4090 800
Ar hyn o bryd mae Caryl yn gweithio ar ei chyfres deledu ddiweddara. Mae hi hefyd wedi bod yn cyflwyno Cynllun Corâl Campus  am y tro cyntaf gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd. Bydd modd gweld Caryl yn cyflwyno’n ddyddiol ar S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol (Cynhyrchiad BBC Cymru Wales)
 

Brychan Llyr

 
/tinyimages/Brychan2.jpg
 
Yn ogystal â bod yn gyflwynydd llwyddiannus, mae Brychan wedi gwneud enw i’w hun yn y diwydiant cerddoriaeth. Cliciwch yma i weld FIDEO NEWYDD o’i gan 'Calon Lan (Lleddf)' a gyfarwyddwyd hefyd gan Brychan. Mae profiad, brwdfrydedd a phroffesiynoldeb Brychan yn ddelfrydol ar gyfer cyflwyno, cyfarwyddo, trosleisio a chyflwyno nosweithiau byw. 

Lisa Angharad

LA
 
Mae Agency @ Mr Producer yn estyn croeso cynnes i’r cyflwynydd, actores a chantores Lisa Angharad. Mae hi bellach yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fel cyflwynydd y gyfres Perffaith Hapus sy’n ymchwilio i’r pellteroedd rhyfedd ar adegau, y mae pobl yn mynd iddynt i fod yn hapus. Mae ganddi ddawn gyflwyno unigryw sydd wedi dal sylw cynulleidfa S4C ers ei chyfres gyntaf Ddoe am Ddeg. Bydd yn ymddangos cyn hir fel y cymeriad 'Cadi' ar gyfres boblogaidd Gwaith Cartref ar S4C. Ymddangosodd yn ddiweddar fel un o’r pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol i weithio gyda Recordiau Decca fel unawdydd ar Llais i Gymru gan ddangos ei doniau canu i’r cwmni recordio byd enwog hwn. Clichiwch yma i wrando ar Lisa.

Lucy Owen

Lucy
 
Llongyfarchiadau i gyflwynydd BBC Wales Today, Lucy Owen am ei gwaith caled ar raglen S4C Cariad@Iaith. Mae hi yn parhau i gyflwyno cyfres X-Ray gyda'i gwr Rhodri Owen ac am y drydedd flwyddyn yn olynol bu Lucy yn cyflwyno Noson Wobrwyo Salon Cymru yn stadiwm SWALEC ac eto i ddod yn 2012 bydd yn cyflwyno Noson Wobrwyo Gofal Cymru yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. 

Iolo Williams

iolo
Mae Iolo yn parhau i fod mor brysur ag erioed! Yn ddiweddar, cwblhaodd gyfres Summer Watch y BBC a bydd yn dechrau cyn hir ar gyfres o Autumn Watch. Mae’n gweithio ar gyfres "Great Welsh Parks" i BBC Cymru Wales ar hyn o bryd i’w darlledu'r flwyddyn nesaf. Mae Iolo yn parhau hefyd i weithio gyda Traveline Cymru, Dwr Cymru ac unwaith eto yn cyflwyno Noson Wobrwyo NPT Environment. 

Rhun ap Iorwerth

Rhun
 
Mae Rhun yn parhau'n wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd yng Nghymru fel newyddiadurwr a darlledwr. Mae ar fin Cadeirio Cynhadledd Cyngor ar Bopeth Cymru yn yr Holiday Inn, Caerdydd a bydd hefyd yn Cadeirio achlysur 'Agor am Fusenes' ar ran Llywodraeth Cymru yn Venu Cymru, Llandudno. 

Ymddiriedolaeth Genedlaethol

 
NT
 
Mae Agency @ Mr Producer yn parhau i weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y tro yma'n darparu artistiaid fel Lilygreen a Maguire, artistiaid syrcas, peintwyr wynebau, consuriwr plant ac artist balwnau i'r Agoriad Swyddogol (The Big Housewarming). Bydd mwy o newyddion cyn hir.

Hefyd ar gael ar gyfer digwyddiadau corfforaethol, cyflwyno neu berfformio...

Sian
Sian Lloyd
Wynne
Wynne Evans
Aled
BB Aled Heydn Jones
Carys
Carys Davies
Simon
Simon Jones, Cricedwr Morgannwg
/tinyimages/4o5s.jpg
Y 405's
/tinyimages/Footloose.jpg
Footloose
/tinyimages/Antwn_Owen_Hicks.JPG
Pibydd Celtaidd, Anton Hicks
/tinyimages/0c107773506bd0608361be9b920dacad.jpg
Jagger a Woody o Real Radio
/tinyimages/Image_1.jpg
Ac yn olaf... Mr Producer ei hun, Stifyn Parri!

 

Fel asiantaeth rydym hefyd yn medru bwcio unrhyw a fynnwch, felly cysylltwch â ni gyda'ch  ymholiadau.
Am ragor o wybodaeth ynglyn a Digwyddiadau, Cysylltiadau Cyhoeddus ac Agency @ Mr Producer cliclwch yma.