Croeso i wefan MR PRODUCER.

Mae Stifyn Parri yn adnabyddus yn wreiddiol fel actor a chanwr. Bu’n serennu yn Brookside fel Christopher Duncan, ac fel Marius yn Les Miserables yn y West End. Erbyn hyn efallai, mae Stifyn yn fwy adnabyddus fel diddanwr a chynhyrchydd creadigol drwy ei gwmni MR PRODUCER.

Mae ei waith cyflwyno yn cynnwys sawl cyfres o Sion a Sian – S4C, y sioe siarad A Life in Ten Pictures – Made in Cardiff, The Dragon’s Song – Channel 4, House to House – ITV, Noson Wobrwyo BAFTA Cymru – BBC 2 rhywdwaith, a Cwis Cymru ac Aelod o Gymdeithas i Radio Cymru. Mae ganddo ei raglen wythnosol ei hun ar Radio Cardiff 98.7fm o’r enw ‘Stifyn’s Stuff’.

Fel cynhyrchydd creadigol mae Stifyn, drwy MR PRODUCER, wedi creu a llwyfanu rhai o ddigwyddiadau mwya’ Cymru gan gynnwys Penwythnos Agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru, Cyngerdd Agoriadol Cwpan Ryder Cymru yn Stadiwn y Milleniwm, sawl noson wobrwyo gan gynnwys unarddeg i BAFTA Cymru, agoriad Hugo Boss, John Lewis, ATRium, Tiger Tiger ac Ikea yng Nghaerdydd, Stadiwm Liberty yn Abertawe, wedi lawnsio dathliad Prifysgol Bangor yn 125 oed, Y Gwyll a Cyw i S4C a sawl digwyddiad i Eisteddfod yr Urdd, y Genedlaethol a Llangollen. Mae Stifyn hefyd wedi llwyfannu sawl cyngerdd byw i’r teledu gan gynnwys Jones Jones Jones, Penblwydd y Ffermwyr Ifanc yn 70, C Ffactor ac Yma o Hyd – er cof am Ray Gravell. Mi weithiodd fel Cynhyrchydd Creadigol ar sawl cyfres arall fel Seren Bethlehem, Seren Nadolig Rhos, Y Porthmon, Y Sipsiwn a Noson yng Nghwmni.

Stifyn oedd yn gyfrifol wrth greu a rheded cymdeithas rhywdweithio rhyngwladol SWS am ddeng mlynedd yn Llundain, Rwsia, Spaen ac Efrog Newydd gyda aelodau fel Catherine Zeta Jones, Bryn Terfel a Matthew Rhys.

Mae Stifyn yn mentora, ac yn cynnig gwasanaeth i ddatblygu hyder a thechneg cyfweld i bob oedran, ac yn darparu gweithdai i unigolion, sefydliadau a cholegau drama, a hefyd yn gweithio fel model rol i entrepreneurs ifanc drwy Syniadau Mawr Cymru i’r llywodraeth.

Mae profiad helaeth Stifyn, ei gysylltiadau hirfaith a’i allu entrepreneuaidd yn ei alluogi i gynnig gwaith fel ymgynghorwr creadigol. Mae’r wasanaeth yma yn helpu unigolion a sefydliadau i ddatblygu sciliau meddwl sy’n allweddol i fod yn effeithiol, cystadleuol a pherthnasol.

Mae Stifyn yn gyfrifol am yr hunangofiant dwyieithog gynta erioed ‘Out with It! /Allan â Fo!’, ac yn teithio ei sioeau Un Dyn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Am fanylion pellach, porwch weddill y wefan i ddeall mwy am y gwasanaethau y mae MR PRODUCER yn cynnig.
Diolch yn fawr x.